4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:20, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o wneud datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, a osodwyd y prynhawn yma. Mae hon yn gyllideb ddrafft sy'n wahanol i unrhyw un arall yr ydym ni wedi'i gosod ers dechrau datganoli. Mae wedi bod yn un o'r anoddaf a wnaethom ni erioed, gan adlewyrchu'r storm berffaith o bwysau economaidd a chyllidebol a wynebir yng Nghymru, ac nid ydym ni yn gyfrifol am unrhyw un ohonyn nhw.

Ychwanegwyd at broblemau degawd o gyni gan effeithiau parhaus a hirdymor Brexit, y pandemig a'n hadferiad ohono, canlyniadau economaidd a dyngarol y rhyfel yn Wcráin, a nawr argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen, sy'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd bob dydd a busnes. Mae'r DU mewn dirwasgiad, mae chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac mae prisiau ynni'n codi'n aruthrol ar yr un pryd ag y mae safonau byw yn gostwng. Mae ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus yn fregus iawn a dydyn nhw ddim yn gallu gwrthsefyll mwy o ysgytwadau. Mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn ymrafael bob dydd gyda'r her o ymdopi yn unig.

Nid yw ein setliad cyllid yn ddigon i ymdrin â'r holl bwysau eithriadol hyn, heb sôn am ein blaenoriaethau yn 2023-24. Hyd yn oed ar ôl y cyllid ychwanegol a gawsom yn natganiad yr hydref—£1.2 biliwn dros ddwy flynedd—mae ein setliad yn dal yn werth hyd at £3 biliwn yn llai mewn termau real, a hyd at £1 biliwn yn llai yn 2023-24. Ac yn union fel yr oedd y DU yn mynd i ddirwasgiad, fe wnaeth Llywodraeth y DU y penderfyniad anhygoel hwnnw i beidio â sicrhau bod mwy o gyllid cyfalaf ar gael i ysgogi ein heconomi. Mae'r DU yn mynd i mewn i ddirwasgiad mewn sefyllfa sy'n waeth na sefyllfa unrhyw un o economïau eraill y G7, a bydd ein cyllideb gyfalaf 8.1 y cant yn is mewn termau real, gan ddisgyn yn is na'r hyn sydd ei angen arnom i gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol.

Llywydd, ym mhroses y gyllideb hon, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn i sicrhau bod pob punt yr ydym wedi'i buddsoddi yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf. Mae cyllideb ddrafft 2023-24 yn adeiladu ar y cynlluniau gwariant dangosol a nodwyd gennym yn adolygiad gwariant tair blynedd Cymru y llynedd. Ym mhroses y gyllideb hon, mae pob Gweinidog wedi gweithio'n galed i ail gyfeirio cyllid o gynlluniau presennol i le y bydd yn cael yr effaith fwyaf. Ynghyd â chyllid refeniw ychwanegol a ddarperir drwy ddatganiad yr hydref, rydym wedi gwneud rhai dyraniadau ychwanegol, yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth: diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a'n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol gymaint ag y gallwn ni; parhau i ddarparu cymorth i'r rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan yr argyfwng costau byw; a chefnogi ein heconomi drwy gyfnod o ddirwasgiad.

Gan gydnabod ein hymrwymiad i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, mae hyn yn cynnwys £165 miliwn yn ychwanegol i GIG Cymru er mwyn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Mae £227 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol drwy'r setliad i helpu awdurdodau lleol ddiogelu'r ystod bwysig ac eang o wasanaethau y maen nhw'n eu darparu, gan gynnwys ariannu ysgolion yn uniongyrchol. O ganlyniad i'r penderfyniadau gwariant a wnaed mewn cysylltiad ag addysg yn Lloegr, cafodd Cymru gyllid canlyniadol o £117 miliwn y flwyddyn yn natganiad yr hydref. Trwy'r dewisiadau yr ydym ni wedi'u gwneud, mae hwn yn cael ei ddarparu'n llawn i lywodraeth leol. Byddwn ni hefyd yn darparu cyllid, drwy'r setliad llywodraeth leol a'r gyllideb iechyd, i barhau i ddarparu'r cyflog byw go iawn ym maes gofal cymdeithasol—buddsoddiad pwysig yn y bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r system iechyd a gofal ehangach. Bydd mwy o fanylion am y setliad llywodraeth leol dros dro ar gael yfory.

Mae Cymru yn falch o fod yn genedl noddfa sydd wedi croesawu miloedd o bobl sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi creu ac ariannu ein llwybr uwch-noddwr ein hunain, sydd wedi helpu bron i 3,000 o bobl i ddod i Gymru. Yn absenoldeb unrhyw gyllid cadarn gan Lywodraeth y DU am yr ail flwyddyn yn ei chynllun Cartrefi i'r Wcráin, byddwn yn parhau i ddarparu cyllid i gefnogi ein hymateb dyngarol, gan sicrhau bod pobl o Wcráin yng Nghymru yn cael croeso cynnes a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn ystod eu cyfnod yma. Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys dyraniad o £40 miliwn yn 2023-24 a £20 miliwn ychwanegol yn 2024-25. 

O'r holl heriau sy'n wynebu Cymru heddiw, yr argyfwng costau byw yw'r un sy'n brathu galetaf i'r rhan fwyaf o bobl. Mae'r gyllideb ddrafft yn rhoi £18.8 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, sy'n darparu achubiaeth i ddegau o filoedd o bobl sy'n wynebu caledi ariannol. Mae £10 miliwn yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn ymyriadau atal a lleddfu digartrefedd ledled Cymru.

Mae'r argyfwng y mae ein heconomi yn ei wynebu hefyd ar flaen ein meddyliau. Mae'r gyllideb ddrafft hon yn cynnwys £319 miliwn ar gyfer pecyn o gymorth trethi annomestig i fusnesau yn 2023-24, a £145 miliwn ychwanegol ar gyfer 2024-25. Rydym hefyd yn buddsoddi £18 miliwn ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd i gefnogi pobl mewn gwaith a helpu'r rhai hynny sydd heb waith gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fynd i mewn i fyd gwaith ac aros mewn gwaith.

Dyma gyllideb sy'n ceisio cydbwyso'r angen tymor byr i amddiffyn pobl yn wyneb yr argyfwng costau byw uniongyrchol gan hefyd sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn gynaliadwy yn y tymor hirach. Heddiw rydym yn sicrhau bod £40 miliwn yn ychwanegol ar gael i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i greu system drafnidiaeth gynaliadwy a gwyrddach. Bydd grant cyfalaf o £20 miliwn yn helpu awdurdodau lleol i ddatgarboneiddio eu hadeiladau, gan adeiladu ar lwyddiant cynlluniau tebyg yn y sector cyhoeddus, fel y fferm solar yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, sydd bellach yn cyflenwi chwarter anghenion pŵer yr ysbyty.

Yn ogystal â'n dyraniadau ariannol, mae manylion y cyfraddau arfaethedig ar gyfer trethi Cymru ar gyfer 2023-24 yn cael eu cyhoeddi yn rhan o'r gyllideb ddrafft hon. Ni fydd unrhyw newid i unrhyw un o'r cyfraddau presennol ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2023-24. Mae hyn yn golygu y bydd y tair cyfradd—y rhai sylfaenol, uwch ac ychwanegol—yn aros yn 10c yn y bunt. Bydd cyfraddau treth gwaredu tirlenwi'n cael eu cynyddu yn unol â rhagolwg chwyddiant y mynegai prisiau manwerthu, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2023. Ni fydd newidiadau pellach i'r cyfraddau a bandiau ar gyfer prif gyfraddau treth trafodiadau tir preswyl yn dilyn y newidiadau hynny a gyflwynwyd ar 10 Hydref. Yn yr un modd, ni chynigir unrhyw newidiadau i gyfraddau treth uwch trafodiadau tir preswyl neu amhreswyl a gyflwynwyd ar 22 Rhagfyr 2020. Rwy'n cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar wahân heddiw yn nodi manylion ychwanegol am ein cynlluniau treth.

Rydym yn parhau i gyhoeddi cyfres helaeth o ddogfennau fel rhan o'n pecyn cyllideb ddrafft, gan alluogi lefel uchel o dryloywder ar gyfer aelodau'r Senedd, ein partneriaid gwasanaeth cyhoeddus, partneriaid cymdeithasol, y trydydd sector, ac yn wir bobl Cymru. Mae adroddiad ein prif economegydd a phiblinell prosiect strategaeth buddsoddi seilwaith Cymru yn rhan o'r pecyn hwn, a'r cyfan yn cael ei gyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru a'i rannu â'r Senedd. Rwy'n arbennig o falch bod ein cynllun gwella cyllideb, a grëwyd gyda'r grŵp cynghori ar effaith a gwelliant y gyllideb yn cynnal ein hymrwymiad i ddarparu tryloywder ynghylch gwella prosesau cyllideb a threthi.

Rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghydweithwyr yn y Cabinet am eu hymrwymiad a'u gwaith caled yn ystod y broses hon, ac rwyf am ddiolch hefyd i Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Arweiniol ar gyfer y Cytundeb Cydweithredu, am yr ymgysylltu parhaus a'r berthynas waith agos yn ystod y broses hon.

Llywydd, dyma gyllideb ddrafft a wneir mewn cyfnod caled ar gyfer cyfnod caled. Mae'n adlewyrchu cyfyngiadau ein setliad cyllid ond nid diffyg uchelgais. Mae'n cadw ein hymrwymiad i flaenoriaethu'r mwyaf agored i niwed, a gwasanaethau cyhoeddus, wrth barhau i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach i bawb.