Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Ond yr hyn sydd angen i ni ei weld gan Lywodraeth Cymru yw cyllideb sy'n cyflawni, oherwydd ni ellir defnyddio'r anawsterau presennol fel esgus dros beidio â mynd i'r afael â'r materion strwythurol sy'n ein hwynebu ni yma yng Nghymru. Mae blaenoriaethau pobl, a fy mlaenoriaethau i, yn cynnwys dadflocio'r system gofal cymdeithasol, mynd i'r afael ag amseroedd aros o fewn GIG Cymru, buddsoddi mewn cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus a rhoi hwb i'n heconomi, cefnogi ein hysgolion a phobl ifanc, ac, yn bwysig hefyd, helpu teuluoedd gyda'r argyfwng costau byw. Dydw i ddim am eiliad yn awgrymu bod unrhyw un o'r heriau hyn yn hawdd; maen nhw i gyd yn bethau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw dros y tymor hirach. Ond roedd llawer ohonyn nhw'n bodoli cyn y problemau economaidd presennol, a chyn y pandemig hefyd. Maen nhw newydd gael eu gwaethygu gan yr heriau yr ydym ni wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Llywydd, hoffwn yn awr droi fy sylw at rai o'r blaenoriaethau hynny y soniais amdanyn nhw yn gynharach. Mae mawr angen y pecyn cymorth i fusnesau a gyhoeddwyd yn y gyllideb, ac fe ddaw ar adeg o bwysau sylweddol o ganlyniad i bethau fel chwyddiant a chostau ynni. Rwy'n croesawu'n benodol y cynnydd yn y cynllun rhyddhad i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch i 75 y cant. Mae hyn nawr yn cyfateb i'r gefnogaeth a gynigir i fusnesau o'r fath yn Lloegr, a gafodd ei gyhoeddi yn natganiad yr hydref yn ddiweddar. Ond er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiadau hyn, rhaid iddyn nhw hefyd beidio â thynnu oddi ar y ddadl y mae angen ei chael, a dyna sut rydym yn cydbwyso'n effeithiol yr angen i drethu busnes i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus tra ein bod yn darparu amgylchedd sy'n annog twf.
Gweinidog, ydych chi'n ffyddiog y bydd eich diwygiad arfaethedig o drethi annomestig, fel y cyhoeddwyd eisoes, yn annog creu a thyfu busnes mewn gwirionedd, neu a oes risg y bydd dim ond yn dablan ar yr ymylon? Ac oni ddylem fod yn edrych ar ddiwygiadau mwy sylfaenol tra bod rhewi ardrethi annomestig ar waith, megis lleihau'r lluosydd ar gyfer busnesau bach yn y tymor hwy, neu ddefnyddio dull graddedig ar gyfer ardrethi annomestig ar gyfer busnesau newydd, fel y gallwn annog arloesedd ac entrepreneuriaeth fel ffordd o ysgogi economi Cymru ymhellach?
Gan droi at lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus, mae mawr angen y cynnydd mewn cyllid i gynghorau dros y ddwy flynedd nesaf, ond yr hyn sy'n bwysig yw nad ydym yn gweld arian ychwanegol yn mynd i gronfeydd wrth gefn y cyngor, ond eu bod yn cael eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau a thrigolion, yn ogystal â datgloi'r cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd i helpu'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Rydym yn gwybod bod cynghorau yn wynebu pwysau costau. Dyma'r amser iddyn nhw ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddyn nhw, oherwydd yr hyn sy'n amlwg yw nad oes gan drethdalwyr y capasiti i dalu mwy ar gyfer y dreth gyngor nag y maen nhw ar hyn o bryd. Eto i gyd, mae Cyngor Dinas Casnewydd er enghraifft yn awgrymu y gallan nhw gynyddu treth y cyngor 9.5 y cant y flwyddyn nesaf. Ac rwy'n siŵr bod eraill yn edrych ar ffigyrau tebyg, sy'n gwbl annheg o ystyried yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.
Gweinidog, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o ddigonolrwydd yr arian wrth ymdrin â'r pwysau y mae cynghorau yn eu hwynebu? A pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol am bwysigrwydd cefnogi teuluoedd trwy gadw'r dreth gyngor mor isel â phosib? Hefyd, ni wnaeth eich datganiad gyfeirio at bwysau cyllidebol o ganlyniad i godiadau cyflog yn y sector cyhoeddus. Felly, a wnewch chi amlinellu a fydd disgwyl i gynghorau dalu am hyn drwy'r arian yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw, sy'n golygu y bydd llai o gymorth ar gael i wasanaethau cyhoeddus?
Gan droi at ofal cymdeithasol, credaf ein bod i gyd yn croesawu'r codiad i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i gael y cyflog byw gwirioneddol uwch, ond nodaf na fydd gweithwyr yn cael hwn tan fis Mehefin 2023. Felly, yn sgil y pwysau costau byw presennol, yn ogystal â materion recriwtio a chadw o fewn y sector, tybed a ellid cyflwyno hyn er mwyn llenwi swyddi gwag yn gynt, yn ogystal â sicrhau bod staff ac aelodau gofal cymdeithasol yn cael y cymorth y maen nhw'n ei haeddu.
Fodd bynnag, er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiad hwn, mae'n ymddangos fel pe bai'n cael ei ariannu drwy'r setliad llywodraeth leol a chyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol presennol. Felly, mae'r cyfan yn dal i fod yn dipyn o guddio a chelu. Er gwaethaf y prif ffigur o £70 miliwn, nid arian newydd mohono mewn gwirionedd, sy'n golygu y bydd llai ar gael ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Ac, felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y bydd hyn yn cael ei ariannu mewn gwirionedd. A fydd portffolios llywodraeth leol ac iechyd yn rhannu'r baich yn gyfartal, neu a fydd un portffolio yn ariannu cyfran fwy?
O ran gofal iechyd, mae'r GIG yng Nghymru yn amlwg yn wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd. Mae'n hanfodol ei bod yn cael y cymorth sydd ei angen arno. Felly, er bod y £165 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen yn gam cadarnhaol, mae lefel y manylion yn siomedig ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei ddyrannu. Er enghraifft, pa newidiadau trawsnewidiol y byddech chi'n disgwyl eu gweld fel bod modd symud mwy o bobl o welyau ysbyty y mae mawr eu hangen i gyfleusterau gofal mwy priodol, a sut yr eir i'r afael â phrinder staff yn ein hysbytai i sicrhau bod ysbytai'n cyflawni lefelau staffio diogel, fel y gallwn wario'n well y miliynau o bunnoedd sy'n cael ei wario ar staff asiantaeth ar hyn o bryd? Ac felly, Gweinidog, rwy'n credu y byddem i gyd yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth yn eich ymateb chi am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG a'r sectorau gofal cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dyrannu £3 miliwn i ymchwiliad COVID-19 y DU. Onid yw'r Gweinidog yn credu y byddai'r arian yma wedi cael ei wario'n well ar ymchwiliad penodol i Gymru yn lle hynny, er mwyn i ni ddysgu mwy am yr hyn a wnaethom ni'n dda yma yng Nghymru, a beth allen ni ei wneud yn well?
Yn olaf, Llywydd, hoffwn sôn am yr argyfwng costau byw. Rwy'n gwerthfawrogi bod mwy o arian wedi'i ddyrannu i'r gronfa cymorth dewisol, ond hoffwn ofyn a yw hyn yn golygu y bydd y meini prawf cymhwysedd yn cael eu hehangu, fel y gall mwy o bobl gael mynediad i'r cynllun, yn enwedig y rhai nad ydyn nhw'n derbyn budd-daliadau ond yn cael eu hunain mewn trafferthion. Ac yn y cyfnod anodd hwn, bydd nifer o bobl ledled Cymru yn meddwl tybed a allai'r £800,000 a ddyrannwyd i ddiwygio'r Senedd gael ei wario'n well ar ddarparu cymorth costau byw ychwanegol. Ac ynghylch y pwynt hwnnw, mae angen rhywfaint o eglurder, oherwydd mae'n ymddangos bod ymrwymiad yn nhabl y llinell wariant yn y gyllideb o £2.2 miliwn, sy'n wahanol i'r hyn a ddywedir yn y naratif hwn sef £800,000.
I grynhoi, rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y datganiad cyllideb heddiw, ac rwy'n ailddatgan yr hyn a ddywedais yn gynharach: mae'n rhaid i hon fod ac mae angen iddi fod yn gyllideb sy'n cyflawni. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos bod ganddi gynllun i wario'r arian mewn ffordd sy'n mynd i'r afael yn ariannol â'r problemau hirsefydlog yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru, yn ogystal ag ymateb i'r problemau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Diolch.