Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Diolch, Janet. Dim ond cyfeirio'n ôl at eich datganiad am arian trethdalwyr, tybed a ydych chi'n cytuno â mi fod y sgandal cyfarpar diogelu personol yn San Steffan, lle roedden nhw'n gwastraffu arian trethdalwyr a'i roi i'w cyfeillion yn Nhŷ'r Arglwyddi, ydych chi'n cytuno â mi bod hynny'n warth gwirioneddol, ac y gellid bod wedi gwario hwnnw'n well yn y DU ac yng Nghymru?