Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr iawn. Fe wnaethoch chi sôn am £227 miliwn ar gyfer llywodraeth leol, ond wrth gwrs dyna i chi'r cynllun benthyciadau £31 biliwn gan y Llywodraeth a gafodd ei drosglwyddo'n ôl. Aethon nhw ddim ar drywydd hynny, fe daflon nhw ein harian i ffwrdd. Maen nhw'n hollol ddiofal gydag arian cyhoeddus. Ac mae hynny ar ben y sgandal cyfarpar diogelu personol gwerth £200 miliwn. Felly, mae hynny'n gwneud cyfanswm o £31.2 biliwn ar y ddwy eitem hynny yn unig, lle rydych chi mewn gwirionedd wedi methu fel Llywodraeth Dorïaidd i fod yn geidwaid y pwrs cyhoeddus.