Part of QNR – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2022.
Rŷn ni wedi buddsoddi dros £80 miliwn i ehangu neu agor mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd ar draws Cymru. Dwi eisiau gweld pob plentyn yn gadael yr ysgol, pa bynnag ysgol yw hynny, yn siaradwyr Cymraeg. Dyma fydd ein ffocws dros y degawd nesaf.