Cefnogaeth i Fusnesau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:33, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr yr Aelod, Llywodraeth y DU sydd â’r ysgogiadau i fynd i’r afael â chynnydd mewn costau i fusnesau, cyfraddau llog ar gyfer benthyca, trethu ffawdelw a rheoleiddio’r farchnad ynni. Ein blaenoriaeth o hyd yw cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio ac arbed. Rydym yn parhau i nodi cyfleoedd i ailgyfeirio adnoddau i leihau beichiau ar fusnesau, ac wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r datganiad a wnaeth y Gweinidog Cyllid ar ardrethi annomestig.