Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau, ein cymorth busnes a'n hysgogiadau datblygu economaidd i helpu i greu a diogelu cyflogaeth o ansawdd da ac i helpu i wella cyfleoedd i gamu ymlaen. Mae hyn yn cefnogi ein hymdrechion i gynyddu incwm gwario gros y pen fel rhan o'n cenhadaeth economaidd a'n hymagwedd tuag at economi llesiant yma yng Nghymru.