Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Gwnaf. Mae cynnydd da'n parhau i gael ei wneud yn SA1, gyda lefelau da o ddiddordeb gan ddatblygwyr a meddianwyr. Mae cynigion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer ardal y matrics arloesedd yn dod yn eu blaenau, mae datblygiad llety myfyrwyr ar Heol y Brenin ar fin cael ei gwblhau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r broses o gaffael doc Tywysog Cymru.