Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:11, 14 Rhagfyr 2022

Wel, diolch am y cadarnhad hynny oherwydd rydyn ni gyd yn cydnabod ei bod hi'n anodd iawn symud ymlaen gyda'r agenda yma heb gael gweithlu sydd wedi'i ymbweru â'r sgiliau i wireddu nifer o'r interventions sydd eu hangen ar gyfer cyrraedd sero net. Mi wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd bwysleisio i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ddiweddar ei bod hi'n methu tanlinellu'n ddigon cryf pa mor allweddol oedd hi i symud ymlaen â'r agenda yma ar fyrder. Nawr, mi oedd y cynllun i fod yn cael ei gyhoeddi, wrth gwrs, yn y gwanwyn. Mi ohiriwyd hynny tan yr haf. Mi ohiriwyd hynny'n bellach wedyn tan y Nadolig, a nawr wrth gwrs rydych chi'n cadarnhau y bydd hynny yn y flwyddyn newydd. Gaf i ofyn pam bod yr oedi wedi digwydd, ac a gaf i ofyn i chi ategu efallai yr hyn a ddywedoch chi yn eich ateb cyntaf na fydd yna slippage pellach?