Amseroedd Aros am Driniaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:55, 14 Rhagfyr 2022

Mae etholwraig wedi cysylltu â mi sydd yn nyrs ddeintyddol. Mae hi’n dioddef o carpal tunnel syndrome yn ei dwy law. Yn amlwg, mae hynny’n effeithio ar ei gallu hi i wneud ei swydd. Mae hefyd yn effeithio ar ei lles a’i ansawdd bywyd ehangach hi. Nawr, dywedwyd wrthi cyn yr haf y byddai hi yn gorfod aros 12 mis am driniaeth, ond dim ond os oedd hi’n achos brys. Mi gafodd hi gadarnhad ym mis Medi ei bod hi’n achos brys ond bellach fod y rhestr aros yn ddwy flynedd. Nawr, cymaint yw’r boen a chymaint yw’r effaith y mae’r cyflwr yn ei chael arni, wrth gwrs, mae bellach wedi penderfynu bod yn rhaid iddi fynd yn breifat i gael y driniaeth. I dalu am hynny, mae hi’n gorfod gwerthu ei thŷ, Weinidog. Felly, beth yw’ch neges chi i bobl fel hi, sy’n cael eu gyrru i’r sector preifat ac yn aml iawn yn gorfod gwneud hynny er nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn gallu fforddio gwneud hynny? Ac onid ydych chi’n cywilyddio o bobl yn gorfod gwerthu eu cartrefi er mwyn iddyn nhw gael triniaeth—[Anghlywadwy.]