Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Da iawn, ac mae'n dda gweld y cynllun yma'n datblygu. Ond, hoffwn i wybod a oes yna unrhyw waith pellach ar y gweill er mwyn sicrhau bod y ganran angenrheidiol o ddarpar feddygon, sydd â sgiliau yn yr iaith Gymraeg, yn mynychu'r ysgol feddygol? Fe gyhoeddwyd cynllun newydd ar gyfer 'Mwy na Geiriau', a hoffwn wybod sut mae'r themâu sydd yn y cynllun hwnnw yn cael eu rhoi ar waith ym Mangor, yn benodol, y thema cynllunio ar gyfer gweithlu dwyieithog yfory.
Hoffwn i ofyn hefyd—glywsoch chi fi ddoe yn holi'r Prif Weinidog—am bosibiliadau datblygu Bangor yn hwb hyfforddiant iechyd a meddygol, gan gyfeirio at ddysgu deintyddiaeth a fferylliaeth fel pynciau gradd. O ran deintyddiaeth, dim ond un ysgol ddeintyddol sydd yna yng Nghymru. Onid oes angen un arall? Ac onid Bangor ydy'r lle hollol amlwg i sefydlu'r ail ysgol ddeintyddol yng Nghymru, o gofio'r arbenigedd iechyd a meddygol sydd yn prysur ddatblygu yno?