Ysgol Feddygol Bangor

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:48, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall, mewn gwirionedd, ein bod yn awyddus iawn i gael hyn ar y gweill cyn gynted â phosibl. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen inni gynyddu niferoedd y bobl sy'n hyfforddi i fod yn feddygon, ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni weithio o fewn y cyfyngderau sy'n cael eu gosod gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Felly, nid ein lle ni yw dweud 'Iawn, dewch ag ef'; mae'n rhaid inni weithio gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, sy'n rhoi caniatâd i'r brifysgol symud ymlaen. Yr hyn sy'n dda i'w glywed, rwy'n meddwl, yw bod tîm o 13 aelod o staff ar draws timau meddygol a gwyddoniaeth eisoes wedi cael eu recriwtio, ac mae 6.6 o'r rhain yn staff amser llawn.

Rwy'n credu ei bod yn annheg dweud mai dim ond yn ne Cymru y mae pethau. Rwy'n gwybod bod y Llywydd a minnau wedi ymweld â'r ganolfan hyfforddiant nyrsio newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar, ac roedd ganddynt hwy fannau efelychu hefyd, yn sicr. Yn amlwg, bydd rhaid aros i weld sut mae pethau'n datblygu yn yr ysgol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod cyfyngiadau cyfalaf yn dynn iawn ar hyn o bryd. Felly, ar hyn o bryd, fe gawn weld, wrth i bethau barhau, sut mae pethau'n datblygu. Erbyn inni gyrraedd y cohort llawn o niferoedd, rwy'n gobeithio y bydd gennym Lywodraeth Lafur a fydd yn gallu rhoi mwy o arian i mewn i'r system.