Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
A gaf fi ddiolch i Joel James am godi hyn heddiw? Mae’n iawn ein bod yn cael cyfle i drafod hyn ar lawr y Senedd hon, a chytunaf yn llwyr ag ef fod yr honiadau a ddaeth i’r amlwg yn adroddiad newyddion ITV yn gwbl wrthun, ond rydych yn llygad eich lle na ddylai gymryd adroddiad newyddion i gamau gweithredu gael eu cymryd ar y materion hyn hefyd. Fe sonioch chi am ddewrder y menywod sydd wedi rhoi gwybod am eu profiadau. Nid yw hynny’n beth hawdd i’w wneud. Mae’n gam mawr i’w gymryd. Ond ni ddylai fod yn gam angenrheidiol i'w gymryd. Ni ddylai’r ymddygiad hwnnw fodoli yn y lle cyntaf, ond dylai’r gefnogaeth fod yno o fewn y sefydliadau hynny i alluogi pobl i deimlo’n ddiogel ac i roi gwybod i rywun heb ofni ôl-effeithiau yn sgil hynny.
A dweud y gwir, cefais gyfarfod brys gyda chadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru bore ddoe, a dywedais yn glir iawn wrtho fod angen ymchwiliad cwbl annibynnol ac eang i’r materion hyn. Dylai fod yn debyg i'r un a sefydlwyd gan Gomisiynydd Tân Llundain i ymchwilio i honiadau o fwlio hiliol, a adroddodd fis diwethaf. Ar y pwyntiau a wnaeth yr Aelod, pwysleisiais yn arbennig wrth y cadeirydd fod angen i’r ymchwiliad hwn gael ei arwain gan unigolyn y gellir ymddiried ynddynt ac sy’n gwbl annibynnol ar y gwasanaethau tân ac achub, megis bargyfreithiwr, a bod yn rhaid i’w gwmpas gynnwys pob math o wahaniaethu, aflonyddu, ymddygiad a diwylliannau annerbyniol. Mae'n rhaid iddo fod yn rhydd i archwilio unrhyw ddogfennau ac i arolygu neu gyfweld â staff, ac mae'n rhaid cyhoeddi ei ganfyddiadau. Ni ellir mynd i'r afael â'r mater fel digwyddiad unigol; mae angen iddo edrych ar y strwythurau sydd wedi caniatáu i hynny ddigwydd a pha gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau na chaiff ei ailadrodd yn y dyfodol. Rwyf wedi gofyn i’r cadeirydd am sicrwydd brys ar y materion hyn, ac rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r lle hwn ar hynny.
I gloi fy ateb i Joel James, rwy'n credu mai’r hyn sy’n amlwg yw bod angen polisi dim goddefgarwch, nid yn unig tuag at y math hwn o ymddygiad, ond tuag at ddiwylliannau a sefydliadau sy’n caniatáu i bobl gadw'n dawel hefyd.