Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Mae nifer fawr o rieni a fferyllwyr, yn wir, wedi dod ataf i dros y dyddiau diwethaf yn pryderu nad ydyn nhw'n medru cael gafael ar penicillin, amoxicillin, clarithromycin ac erythromycin. Mae fferyllwyr yn methu rhoi gwrthfiotig hylif i blant gan nad ydy o ar gael, ac yn gorfod dangos i ofalwyr neu rieni sut mae agor capsiwls a chymysgu'r powdr efo hylif arall er mwyn i blant gael y feddyginiaeth. Ar ben hynny, mae pris prynu'r cyffuriau yma i fewn wedi cynyddu'n aruthrol o £1 neu £2, mewn rhai achosion, i £8 neu £10 ar achosion eraill. Mae'r dwymyn goch wedi cychwyn ynghynt na'r arfer, ac mae pobl yn naturiol yn pryderu am streptococcus grŵp A. Mae'n fy mhryderu i, felly, fod y neges sydd wedi dod allan o'r Llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf wedi dangos diffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae angen sicrwydd ar bobl Cymru fod yna feddyginiaeth elfennol ar gael pan fo'r angen yn codi heb orfod teithio pellteroedd, weithiau hyd at 30 milltir, neu aros wythnosau er mwyn cael y feddyginiaeth. Felly, a wnewch chi roi'r sicrwydd yna i ni, a hefyd a wnewch chi roi pwysau ar gwmnïau cynhyrchu i beidio manteisio ar yr argyfwng a chodi'r prisiau?