Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:19, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae’r honiadau hyn yn datgelu ymddygiad echrydus a chwbl annerbyniol nad oes lle iddo yn y gwasanaeth tân ac achub, nac yn unman arall. Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru eisoes wedi cyhoeddi adolygiad o'i brosesau a'i ddiwylliant ei hun. Mae angen iddo fod yn wirioneddol annibynnol, cadarn a chynhwysfawr.