Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch o galon, Lywydd. Mae'r Sul hwn yn nodi dechrau gŵyl Iddewig Hanukkah, a elwir hefyd yn Chanukah. Gŵyl y goleuni yw Hanukkah sy'n para wyth diwrnod ac mae'n achlysur hynod lawen i'r gymuned Iddewig ar draws y byd. Yn ystod Hanukkah caiff canhwyllau eu cynnau ar ganhwyllbren naw cangen arbennig a elwir yn menora. Caiff cannwyll ei chynnau bob dydd a gosodir menora wedi'i goleuo ger drws neu ffenestr i gyhoeddi gwyrth yr ŵyl i'r byd y tu allan. Mae'n adeg i deuluoedd ddod at ei gilydd i fwyta, canu caneuon traddodiadol a rhoi anrhegion i blant. Hefyd. mae'n arferol chwarae gyda dreidl—top pedair ochr sy'n troi—gan ddatgan, 'Digwyddodd gwyrth fawr yno'. Yn aml mae'r gêm yn cael ei chwarae am arian, cnau a phethau eraill. Wrth inni aros am ddechrau'r ŵyl, hoffwn ddathlu, gyda balchder, y cyfraniad mawr y mae ein cymunedau Iddewig wedi'i wneud i'n gwlad.
Ar adeg lle mae gwrthsemitiaeth yn cynyddu ar draws Ewrop, mae thema rhyddid sy'n ganolog i stori Hanukkah mor berthnasol ag erioed. Dyma rai o'r negeseuon cyffredin sydd i'w gweld, 'Peidiwch byth ag ofni sefyll dros yr hyn sy'n iawn', 'Mae ychydig o olau'n mynd yn bell', neu 'Byddwch fel menora a disgleiriwch yn llachar a chadwch eich ffydd gyda balchder'. Rhaid i ni yn y Senedd ddadlau'n gryf dros hawl pobl i arfer eu ffydd heb ofni trais ac ymrwymo i frwydro yn erbyn yr ideoleg eithafol a'r rhagfarn sydd wrth wraidd gwrthsemitiaeth. Felly, ar yr adeg arbennig hon o'r flwyddyn, wrth i deuluoedd Iddewig ddod at ei gilydd i ddathlu, gadewch i ni gael ein hysbrydoli gan y neges o obaith a ddaw gyda Hanukkah, yn hyderus y bydd casineb yn cael ei oresgyn ac y bydd goleuni bob amser yn disodli'r tywyllwch.