Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Yn gyntaf, a gaf fi longyfarch yr Aelod dros Fynwy ar gyflwyno deddfwriaeth mor hanfodol? Fel y mae'r Aelod wedi'i nodi'n gywir yn ei ddatganiad agoriadol, nid yn unig y mae Bil Bwyd (Cymru) yn darparu fframwaith sylfaenol i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, ond fel y clywsom y prynhawn yma mae'n cryfhau ein diogeledd bwyd, yn gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru ac yn gwella dewisiadau i ddefnyddwyr, ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd o fewn y llyfrau statud. Felly, credaf mai hwn yw'r Bil iawn ar yr adeg iawn.
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn dod ar adeg anhygoel o bwysig, nid yn unig i'r diwydiant amaethyddol ond i'r gadwyn gyflenwi ehangach hefyd. O'r giât i'r plât, o'r fferm i'r fforc, bydd hyn yn sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at gynnyrch iach o ffynonellau lleol—cyfle sydd nid yn unig yn cefnogi ein cymunedau amaethyddol ond sydd hefyd yn eu gosod ar lwybr tuag at dwf cynaliadwy. Ond er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni ddefnyddio pob arf sydd ar gael i ni, o ddefnyddio'r fframwaith yn y Bil amaeth i ddatblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n bosibl mai'r Bil bwyd hwn yw'r darn jig-so coll a fydd yn cwblhau cyfres o fesurau sy'n diogelu, yn hybu ac yn darparu ar gyfer y gymuned amaethyddol.
Ar ôl bod ar y pwyllgor yn craffu ar y Bil amaeth, gallaf sicrhau Aelodau nad oes dyblygu rhwng y ddau Fil. Yn hytrach, maent yn ategu ei gilydd mewn ffordd galonogol. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn darparu cymorth amaethyddol yn dilyn Brexit, mae'r Bil amaeth yn darparu fframwaith lle gellir diogelu'r diwydiant, ac mae Bil bwyd yr Aelod dros Fynwy yn darparu bwyd fforddiadwy ac iach sy'n gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol i bobl Cymru. Yn y bôn, mae'n ticio'r holl focsys rydym eisiau iddynt gael eu ticio wrth fwydo ein cenedl. Mae'r tair rhan hyn—y cynllun ffermio cynaliadwy, y Bil amaeth a'r Bil bwyd—yn ménage à trois o bolisïau sydd wedi'u plethu'n gadarnhaol ar gyfer cynhyrchiant, caffael a ffyniant. Felly, o ystyried hyn, hoffwn i'r Aelod egluro ymhellach sut y bydd ei ddeddfwriaeth yn ceisio ychwanegu at y pedwar amcan rheoli tir cynaliadwy allweddol yn y Bil amaeth.
Gan droi at bethau eraill, roeddwn yn falch o nodi cymaint o gefnogaeth sydd i'r Bil bwyd o fewn y diwydiant, cefnogaeth sydd wedi cael ei hybu gan randdeiliaid. Mae gwaith yr Aelod—boed hynny'n gyfarfodydd bwrdd crwn, ymgysylltiad rheolaidd ag arbenigwyr polisi neu drwy ymgynghoriad cyhoeddus, y soniodd amdanynt yn ei sylwadau agoriadol—wedi golygu bod y Bil hwn wedi ymgorffori cefnogaeth yr holl randdeiliaid allweddol. Mae'r ymgysylltiad hwn wedi ei groesawu'n fawr. Yn dilyn y trafodaethau a gefais i gyda'r diwydiant, hoffwn glywed gan yr Aelod sut mae unrhyw bryderon posibl ynghylch y Bil wedi cael eu lleddfu wrth iddo gael ei ddrafftio.
Yn olaf, o wrando ar wrthwynebiad y Gweinidog i'r Bil, mae'n amlwg fod rhywfaint o bryder o hyd ynghylch y gorgyffwrdd rhwng yr hyn y mae Peter wedi'i gynnig a strategaeth bwyd cymunedol Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid wyf yn dod i'r un casgliad â'r Gweinidog, felly hoffwn wybod mwy am farn yr Aelod ar y mater ac a ydych chi'n credu bod gwrthdaro rhwng y ddau fframwaith.
Felly, i gloi, bydd yr egwyddorion, y ddarpariaeth a'r amcanion polisi rydych wedi'u hamlinellu yn creu platfform polisi cydlynol, cyson a strategol y gallwn ddeddfu arno i wella ein diogeledd bwyd, ond yn ogystal â hynny rydych chi a'ch tîm wedi datblygu fframwaith a fydd yn gwella, yn cryfhau ac yn cefnogi ein system fwyd, gan ei gwneud yn addas ar gyfer heriau'r unfed ganrif ar hugain. Gyda hynny, rwy'n cymeradwyo'r Aelod dros Fynwy am ei ddiwydrwydd a'i ymroddiad yn drafftio'r Bil hwn, ac rwy'n annog yr Aelodau yn y Siambr i gefnogi'r ddeddfwriaeth arloesol hon. Diolch.