Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A llongyfarchiadau i Peter Fox am lwyddo i ddod â'r Bil hwn mor bell, a hoffwn gymryd eiliad i fynegi fy nghefnogaeth gyffredinol i'r Bil hwn.
Mae pandemig COVID-19 ac ymosodiad parhaus Rwsia ar Wcráin wedi dangos pa mor sensitif y gall cadwyni cyflenwi bwyd a nwyddau amaethyddol fod i ddigwyddiadau byd-eang, gan ein hatgoffa o beryglon dibynnu ar fewnforion bwyd a deunyddiau crai. Yn y pen draw, fe wnaeth y pandemig dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â chydgysylltiad a chyd-ddibyniaeth cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Un o bolisïau Plaid Cymru yw ein bod eisiau gweld Cymru lle mae gennym system fwyd gynyddol leol—system gynaliadwy wedi'i chefnogi gan sector amaethyddol cadarn a gefnogir yn ariannol.
Mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru lle mae gan bawb fynediad urddasol at fwyd maethlon wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy, mewn ffordd sy'n sicrhau incwm teg i ffermwyr a holl weithwyr y sector bwyd. Rydym yn gwybod beth sydd angen digwydd i gyflawni hyn; mae angen dull systematig arnom sy'n mynd i'r afael â'r diffygion difrifol yn ein sector bwyd ar hyn o bryd. Mae angen inni weld cynnydd yng nghapasiti prosesu Cymru yn gyffredinol, a gwrthdroi'r hyn a gollwyd mewn capasiti prosesu lleol. Ym maes caffael cyhoeddus, dylem flaenoriaethu prynu bwyd a gynhyrchir yng Nghymru. Gall caffael cyhoeddus lleol a rhanbarthol—er enghraifft mewn ysgolion, ysbytai a swyddfeydd cyngor—helpu i greu marchnadoedd i fusnesau bwyd lleol.
Ymhellach, ac rwy'n siŵr y bydd Peter Fox yn cefnogi'r nod hwn, rydym yn dymuno gweld sir Fynwy yn adeiladu ar ei henw da fel prifddinas fwyd Cymru. Er bod y wlad yn gyfoethog o ran cynhyrchiant bwyd a diod, rydym yn dal i fewnforio bwyd ar raddfa enfawr, ac rydym yn gwastraffu bwyd ar raddfa enfawr hefyd. Nid yw'r system fwyd sydd gennym yn gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol nac yn ddiwylliannol.
Yn ogystal â hyn, er gwaethaf lefelau cynhyrchiant bwyd yng Nghymru, a siarad yn fras, mae gennym dlodi bwyd sylweddol, ac mae ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan gyflyrau iechyd y gellir eu priodoli i ddeiet i raddau helaeth. Rhaid i'r Bil hwn sicrhau bod bwyta'n iach yn cael ei annog drwy fonitro mynediad at fwyd iach yn y cymunedau mwyaf difreintiedig a sicrhau bod y system fwyd yn cael ei chysylltu â sectorau eraill, er enghraifft drwy sicrhau bod coginio ar y cwricwlwm a bod hyn yn cynnwys cynhwysion lleol a ryseitiau lleol iach. Yn ogystal, yn sgil cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, sydd i'w groesawu, byddai'n briodol i system fwyd sy'n cael ei chreu yn sgil y Bil hwn sicrhau bod bwyd a'i gynhyrchiant yn cael ei wreiddio ym mywyd ein hysgolion, gyda chontractau yn cael eu caffael yn lleol pryd bynnag y bo modd fel y gall plant ddysgu o ble y daw eu bwyd a datblygu'r arfer o fwyta bwyd maethlon wedi'i gynhyrchu'n lleol yn gynnar mewn bywyd, sy'n golygu y byddant yn iachach, gyda budd i'r economi a'r amgylchedd.
Mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o newid diwylliant bwyd yng Nghymru, a dylai'r Bil hwn fod yn gyfle i wneud hynny. Un maes lle mae'n amlwg fod angen i hyn ddigwydd yw ein sector pysgodfeydd, bwyd môr a dyframaethu. Mae gan sectorau pysgodfeydd, bwyd môr a dyframaethu Cymru gyfle i ddatblygu ac i gyfrannu at yr uchelgais i Gymru fod ar y blaen am gynhyrchu bwyd cynaliadwy. Mae Cymru wedi'i hamgylchynu gan forlin ac mae ein moroedd yn gyfoethog o gynnyrch, cynnyrch a allai fwydo'r wlad yn gynaliadwy, ond ar hyn o bryd, mae'r sector yn ei chael hi'n anodd. Nid yw'n cael cefnogaeth ac nid yw defnyddwyr yn manteisio'n llawn ar gynnyrch blasus a maethlon ein moroedd. Er mwyn datblygu ein cymunedau arfordirol, lle mae mwyafrif ein poblogaeth yn byw ac yn gweithio mewn gwirionedd, mae angen inni newid ein hagwedd tuag at fwyd môr Cymru, cefnogi ei gynhyrchiant ac adeiladu cadwyni cyflenwi bwyd môr lleol cynaliadwy.
Rwy'n cefnogi'r Bil hwn am y rhesymau niferus a grybwyllais, a hoffwn annog pob plaid yn y Senedd i wneud hynny hefyd gan sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd, a bwydo i mewn i'r broses hon er mwyn sicrhau y gallwn greu system fwyd sy'n gweithio i Gymru a'n holl gymunedau. Diolch.