Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
—a gordewdra. Ac eto, mae'r swm rydym yn ei wario ar fwydo ar y fron yn bitw iawn. Felly, mae angen inni newid perthynas plant â bwyd yn llwyr.
Os ydym yn mynd i barhau i allu fforddio cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd, a thu hwnt i hynny mewn ysgolion uwchradd, gobeithio, ni fydd y £260 miliwn rydym yn ei neilltuo ar gyfer hynny ar hyn o bryd ond yn fforddiadwy yn hirdymor os ydym yn cael y cynhwysion ar gyfer y bwyd hwnnw o'n heconomi sylfaenol. Ac mae hynny'n golygu datblygu'r rhwydweithiau bwyd lleol hynny.
Wedyn, ar newid hinsawdd—