Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, roedd ffigurau diweddar yn dangos difrifoldeb y sefyllfa yn ein cymunedau gwledig ac arfordirol. Fe welodd nifer o'r ardaloedd hynny yng Nghymru gwymp yng nghyfraddau tlodi plant rhwng 2014 a 2019. Mewn rhai rhanbarthau gwledig, arfordirol, parhaodd tlodi plant i godi'n frawychus. O'r chwe awdurdod lleol yng Nghymru a welodd gynnydd yn y cyfraddau tlodi plant, roedd pump mewn ardaloedd gwledig neu arfordirol, yn groes i sut y gallai gael ei weld yn gyffredin fel mater trefol yn bennaf. Eleni, cyhoeddodd Prifysgol Loughborough ymchwil newydd ar ran y gynghrair Dileu Tlodi Plant. Yng Ngheredigion, roedd mwy na 35 y cant o blant yn byw o dan y ffin tlodi; 33.3 y cant ym Mhowys; 34.4 y cant yng Ngwynedd; a 34.6 y cant yn sir Gaerfyrddin—mae'r rhain i gyd yn fy rhanbarth i. Mae gan sir Benfro, ar 35.5 y cant, sir y mae ei phrisiau tai ymhlith yr uchaf yng Nghymru a chyda nifer uchel o ail gartrefi, gyfradd tlodi plant uwch na holl awdurdodau lleol eraill Cymru. Mae tlodi plant mewn ardaloedd gwledig yn cael ei yrru gan incwm isel a chanlyniadau economaidd gwael, diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a thlodi tanwydd, darpariaeth wael o wasanaethau cyhoeddus, rhenti uchel, a phrinder tai fforddiadwy, ymhlith ffactorau eraill. Ynghanol cyfoeth cymharol rhannau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mae tlodi plant yn aml o'r golwg yng ngwydd pawb.
Mae Sefydliad Bevan yn tynnu sylw at y ffaith nad yw ffigurau sy'n ymwneud â thlodi plant yn cyfleu effaith wirioneddol yr amddifadedd a'r tlodi hwn ar fywydau'r plant sy'n ei brofi. Pan fydd plant yn tyfu i fyny mewn tlodi, fe wyddom y bydd yr effeithiau'n aros gyda hwy am weddill eu bywydau. Mae'n amlwg fod y niwed yn cael ei wneud yn gynnar. Yn ôl Sefydliad Bevan, gall tlodi plant effeithio ar iechyd meddwl, hunan-ddelwedd a hunan-barch, iechyd corfforol ac addysg yn nes ymlaen mewn bywyd. Gall hefyd effeithio ar lwybrau gyrfa dilynol, y gallu i gymdeithasu'n normal, ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd o fod yn gysylltiedig â throsedd, naill ai fel dioddefwr neu droseddwr. Weinidog, er fy mod yn deall mai'r Torïaid yn San Steffan a'u rhaglen o gyni didostur a ddylai fod yn atebol am waethygu amddifadedd ar draws y DU, Plaid Lafur Cymru sydd wedi llywodraethu yng Nghymru ers dechrau datganoli. Ar ôl dathlu canmlwyddiant eich plaid yn ddiweddar, a oes perygl efallai mai methiant i drechu tlodi plant fydd y gwaddol a adewir ar ôl gan Lywodraeth Lafur Cymru?