Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol mai Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau allweddol, nid yr holl ysgogiadau, ond yr ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, y pwerau dros systemau treth a lles. Dywedodd fod y cynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru yn parhau i gael ei lesteirio gan benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn San Steffan, sy'n dylanwadu ar lefelau tlodi yng Nghymru ac sy'n cael eu teimlo'n fwyaf difrifol gan y rhai sydd eisoes dan anfantais. Rwy'n cytuno'n llwyr—enghraifft arall o sut nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru a'r ffordd y mae'n gwneud cam â phlant Cymru.
Siaradodd Mark Isherwood lawer am y mater hwn. Nid wyf yn adnabod ei fersiwn ef o hanes economaidd diweddar mewn gwirionedd, ond roeddwn yn cytuno â'i bwynt fod hanes hir i'r mater hwn yma yng Nghymru, ac roeddwn yn cytuno gyda'i gefnogaeth i alwadau am system fudd-daliadau Gymreig. Oherwydd mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod ganddynt bwerau i godi trethi. Maent yn gweinyddu ystod o gynlluniau amddiffyniad cymdeithasol, gyda llawer ohonynt yn cael sylw yn yr adroddiad cynnydd, sy'n caniatáu trosglwyddo arian i ddinasyddion Cymru, gan gynnwys, fel y nododd Luke Fletcher, y lwfans cynhaliaeth addysg, y grant amddifadedd disgyblion. Dyna pam ein bod ni ar y meinciau hyn, ac ymgyrchwyr gwrthdlodi, eisiau gweld system fudd-daliadau Gymreig gydlynol a symlach.
Siaradodd Rhun am y cysylltiad ofnadwy a gofidus rhwng tlodi a materion iechyd, ac mae'r rhain yn broblemau iechyd a fydd yn digwydd nawr ac am weddill bywydau pobl ifanc a phlant. Soniodd am bwysigrwydd gwaith ataliol yn hyn o beth. Soniodd Heledd Fychan ynglŷn â sut mae tlodi'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd plentyn, a soniodd Cefin am y modd y mae'n broblem ym mhob rhan o Gymru, hyd yn oed rhannau annisgwyl o Gymru, llefydd fel sir Benfro, llefydd rydym yn eu hystyried yn hafanau—hafanau prydferth—gyda lefelau rhy uchel o ail gartrefi a rhenti eithriadol o uchel, fel y dywedodd, sy'n gwthio pobl i dlodi. Ac rwy'n credu bod rhaid cydnabod yr elfen dai ar dlodi plant yn briodol.
Rwy'n cytuno bod camau da wedi'u gwneud, ac fe wnaeth llawer o'r Aelodau gyfeirio at bethau fel prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgolion cynradd. Hoffem weld y rheini'n cael eu hehangu, fel y nododd Luke yn gywir. Mae tlodi hefyd yn effeithio ar bobl ifanc. Drwy'r arolwg y cyfeiriodd Luke ato, mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi nodi bod pobl ifanc a rhai yn eu harddegau yn cael eu heffeithio mewn ffordd unigryw gan dlodi—mae eu costau trafnidiaeth, eu hanghenion offer yn uwch. Yr hyn sydd ei wir angen ar blant Cymru sy'n byw mewn tlodi yw gweledigaeth glir, llinellau atebolrwydd mesuradwy a chlir, fel nad ydym yn cyrraedd yr un lle ag y gwnaethom y tro diwethaf, ac mae angen hyn ar frys.
Mae niwed tlodi eisoes wedi digwydd i ormod o'n plant ers cyhoeddi'r adroddiad cynnydd diwethaf, a bydd y niwed hwnnw'n aros gyda hwy, yn amharu ar gyfleoedd bywyd, yn effeithio, fel y clywsom, ar eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol, ac mae'r niwed hwnnw'n digwydd nawr. Felly, beth sydd yna i beidio â'i ennill drwy gefnogi ein cynnig? Dylai Llywodraeth Cymru roi ei balchder gwleidyddol o'r neilltu er mwyn ein plant.