Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Mae yna straeon cadarnhaol yn dod o'r sector bancio. Er enghraifft, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cydweithio â Santander i lansio peiriannau ATM newydd sy'n cofio dewis iaith defnyddwyr, a hefyd mae gan Lywodraeth Cymru swyddogion busnes sy'n cynorthwyo busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae gennym linell gymorth sy'n cael ei lansio yn ystod y misoedd nesaf i gynnig cymorth i fusnesau a darparu gwasanaeth cyfieithu am ddim, ac fe fydd hynny'n ei gwneud hi'n haws i fusnesau drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Hefyd, mae gwaith arbrofol yn cael ei wneud ym maes technoleg i'w gwneud hi'n haws i sefydliadau o bob math wybod a yw eu systemau TG yn gallu darparu gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog o safon. Ac rwy'n credu bod sylwadau Rhun ap Iorwerth ar hyn mewn perthynas â bancio ar-lein yn bwysig ac yn berthnasol. Ond wrth gwrs, mae angen arweiniad technegol manwl arnoch yn aml ac mae angen manylebau arnoch wrth lunio systemau cyfrifiadurol, ac mae camau i drin y Gymraeg yn gyfartal wedi'u hymgorffori yn y gwaith hwn, ynghyd â chydnabyddiaeth fod cynifer o bobl mewn cymunedau ledled Cymru eisiau cyflawni gweithgareddau hanfodol drwy gyfrwng yr iaith ddewisol ac yn ddwyieithog.
Hefyd, nid yw bodolaeth gwasanaethau a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn gwarantu y bydd pobl yn manteisio arnynt. Mae'r dystiolaeth ar ddefnydd siaradwyr Cymraeg o wasanaethau dwyieithog yn awgrymu y gall nifer y bobl sy'n manteisio ar wasanaethau Cymraeg gael ei ddylanwadu gan ystod o ffactorau, gan gynnwys hygyrchedd, amlygrwydd y gwasanaeth, canfyddiadau siaradwyr, ansawdd y ddarpariaeth, ymhlith ffactorau eraill. Felly, mae ein ffocws ar ddarpariaeth ddwyieithog yn cynnwys darparu'r gwasanaethau arloesol hynny, fel hybiau bancio a rennir a'n cynlluniau ar gyfer banc cymunedol, sy'n rhoi cyfleoedd i bobl gael eu gwasanaethau bancio yng Nghymru. Ond mae'n rhaid inni ddweud, o'r ddadl hon heddiw, a gyflwynwyd gan Jack Sargeant, rwy'n annog banciau o bob math yn gryf i fod yn llefydd croesawgar a chalonogol ar gyfer ymarfer a magu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.
Felly, rwyf am droi'n fyr at y pwynt allweddol am ein banc cymunedol a rhoi diweddariad bach. Hoffwn ddiolch yn fawr i Jack Sargeant am y rôl y mae wedi'i chwarae yn cyflwyno Banc Cambria gyda'i uchelgais i leoli cyfleusterau banc cymunedol yn yr etholaeth. Ac rwyf am ddweud, os byddwn yn cyfarfod eto yr adeg hon y flwyddyn nesaf gyda dadl debyg, gadewch inni obeithio y byddwch wedi cael eich banc ym Mwcle yn anrheg Nadolig. Ond mae cymaint o gymunedau ledled Cymru sy'n aros am y banc cymunedol hwn ac sydd eisiau cyflawni'r gweithgareddau dydd i ddydd hynny drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf, y Gymraeg. Bydd hon yn agwedd bwysig iawn ar y banc cymunedol. Bydd yn darparu cyfleoedd i gael gwasanaethau bancio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhan hanfodol o'n dyheadau i gael banc cymunedol yng Nghymru yw sicrhau eu bod yn seiliedig ar werthoedd cyffredin, ac mae'n cynnig cyfle i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Nid wyf yn credu bod hyn wedi'i amlygu ddigon yn ein trafodaethau a'n cwestiynau am y banc cymunedol. Gall ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb a digidol hygyrch i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sector allweddol o'r economi, gan gynnig cyflogaeth ar yr un pryd, a chyfrannu at darged strategaeth y Gymraeg o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Felly, mae yna gynnig masnachol nawr ar gyfer sefydlu'r banc cymunedol hwn. Mae'n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Maent wedi gwneud gwaith manwl dros y misoedd diwethaf—cyfarfûm â hwy yn ddiweddar—i lywio eu strategaeth leoli. Un elfen allweddol o'u hystyriaethau oedd yr iaith Gymraeg, ac mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn parchu'r ffaith bod hwn yn gynnig masnachol sy'n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, gyda chymorth gan Cambria Cydfuddiannol Cyf. Felly, nid oes manylion pellach wedi cael eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion penodol y cynlluniau eto, ond rydym yn gobeithio cael y rheini yn y dyfodol agos. Ac yn wir, ysgrifennodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, at Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn ddiweddar, yn amlinellu pwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg i ddyheadau Llywodraeth Cymru i gael banc cymunedol yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i greu banc cymunedol yng Nghymru a datblygiad model ariannol cynhwysol a chydfuddiannol sy'n gwasanaethu pobl Cymru.
Ac o ran mynediad at arian parod, rwy'n croesawu'r ymyrraeth gan Link a Swyddfa'r Post i gyflwyno hybiau bancio ar y cyd. A nodwyd bod hynny'n angenrheidiol yn sgil colli banciau'r stryd fawr ledled Cymru, ac mae wedi cael sylw mynych yn y Siambr hon.
Felly, gan weithio gyda phartneriaid allweddol ar draws y sector bancio, mae Cymru'n cefnogi cyfuniad o fentrau arloesol, amrywiol a chynhwysol a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu i gynyddu mynediad at wasanaeth bancio gwirioneddol ddwyieithog ar gyfer holl bobl Cymru. Ac mae dod o hyd i'r ateb gorau, ateb dwyieithog sydd wedi'i deilwra, yn ganolog i'r gwaith hynod bwysig hwn.
A—