Part of QNR – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.
Mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru rwymedigaeth o dan y gyfraith i wneud gwasanaethau yn hygyrch i'r bobl rŷn ni’n eu gwasanaethu, gan ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys anabledd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn dal i weithio gyda phob sefydliad iechyd yng Nghymru i wneud yn siŵr bod y rhwymedigaethau hyn yn cael eu bodloni.