Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 10 Ionawr 2023.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru yn darparu cymorth hanfodol i eraill yn yr argyfwng costau byw ac mae'n effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw hefyd. Rydym wedi cynyddu cyllid i'r sector ar gyfer y ddau beth hyn, gan amlaf ochr yn ochr â'n partneriaid awdurdod lleol.