Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 10 Ionawr 2023.
Prif Weinidog, mae gan undebau credyd ran hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi pobl yn ein cymunedau, rhan sydd wrth gwrs yn fwy allweddol yn ystod yr argyfwng costau byw. Yng nghyfarfod olaf y grŵp trawsbleidiol ar fentrau cydweithredol a chydfuddiannol, cawsom gyflwyniad ynglŷn â sut mae undebau credyd wedi dod at ei gilydd i ddatblygu eu cynllun Moneyworks Wales, gyda'r nod o helpu cyflogwyr i helpu eu staff. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer i gefnogi undebau credyd, fel yr amlygwyd dim ond yr wythnos diwethaf, ond sut mae'n gallu sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o'r fenter hon a'u hannog nhw i gymryd rhan?