Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 10 Ionawr 2023.
Diolch i Russell George am y cwestiwn, Llywydd. Rydym wedi darparu mwy na £71 miliwn i weithgareddau rheoli risg llifogydd ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynrychioli ein cyllideb fwyaf erioed. Mae'r £39.5 miliwn sy'n cael ei ddarparu i CNC ar gyfer gwaith rheoli risg llifogydd yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer cynlluniau yn y canolbarth.