Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 10 Ionawr 2023.
Rwy'n credu y gallai fod yn werth, Prif Weinidog, annog pobl i edrych ar y map o fuddsoddiad cyfalaf llifogydd ac arfordirol sydd ar gael ar-lein. Rydych eisoes wedi crybwyll y bu buddsoddiad o £71 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n deall y bydd map rhyngweithiol sy'n darparu mwy o fanylion am y cynlluniau hyn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Byddwn yn croesawu, os ydych chi'n gallu ei ddarparu, unrhyw ddiweddariad ar hynny, oherwydd byddai'n ddefnyddiol iawn, yn enwedig i berchnogion a thrigolion y 45,000 eiddo ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w diogelu dros y tymor nesaf hwn.