Cefnogaeth i Allforwyr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:16, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i Joyce Watson, Llywydd. Mae amodau masnachu byd-eang yn parhau i fod yn anrhagweladwy wrth i ni fynd i mewn i 2023. Yn ogystal â'r cythrwfl a grëwyd gan ymosodiad Rwsia ar Wcráin, mae allforwyr o Gymru yn wynebu rhwystrau newydd rhag masnachu gyda'n marchnad agosaf a phwysicaf. Rydym yn cynnig cymorth ymarferol i bartneriaid i addasu i amgylcheddau masnachu newydd a dod o hyd i gyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol.