Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 10 Ionawr 2023.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Nid oedd y gwasanaeth 15:12 o Lansamlet yn yr amserlen reilffordd a gyhoeddwyd ar gyfer Rhagfyr 2022—ychwanegwyd hwn ar ôl i mi godi pryderon o dan gwestiynau busnes. Un mater yr wyf wedi'i godi'n flaenorol yw bod First Cymru wedi trefnu bod y bws 33 yn terfynu yn Frederick Place, sy'n 300 llath o orsaf Llansamlet, sydd, yn Abertawe, yn gallu bod yn bell yn y glaw. Pa drafodaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei chael ar ailgyflwyno gwasanaeth bws X10 Abertawe i Gaerdydd ac ar wasanaeth trên a bws integredig gydag un tocyn ar gyfer trafnidiaeth bysiau a threnau?