2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:26, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Rwyf i wedi ymestyn yr amser sydd wedi'i ddyrannu i'r datganiad ar bwysau'r gaeaf ar y GIG i 45 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.