Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 10 Ionawr 2023.
O ran eich pwynt cyntaf, byddaf i'n diwygio'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl. Byddwch chi'n gwerthfawrogi mai dyma'r wythnos gyntaf yr ydym ni nôl ar ôl gwyliau'r Nadolig, ond rwy'n bwriadu parhau i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ddiwygiedig honno cyn gynted â phosibl.
Yn sicr, nid ydw i'n credu bod hynny'n wir am Gyngor Sir Powys, ond rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu atyn nhw ynghylch eich pwynt penodol chi.