Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 10 Ionawr 2023.
Gaf i ofyn i'r Gweinidog addysg a'r iaith Gymraeg ddod â datganiad ger ein bron ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau asesiadau cyfrwng Cymraeg amserol i blant sydd angen asesiad awtistiaeth? Mae gen i ambell i achos yn fy etholaeth o blant sydd angen asesiadau awtistiaeth cyfrwng Cymraeg ond yn gorfod aros blynyddoedd. Er enghraifft, cafodd Rhodri—nid ei enw iawn— sy'n wyth oed ei gyfeirio ym mis Chwefror am asesiad awtistiaeth. Rhoddwyd yr opsiwn o wneud yr asesiad ar-lein gyda chwmni Healios, a ddoe cynhaliwyd yr asesiad cyntaf. Cymraeg yw mamiaith y plentyn a barnodd yr aseswyr y dylid cynnal yr asesiad yn Gymraeg er mwyn cael canlyniad teg ac y byddai modd trefnu hynny yn fuan. Heddiw, fodd bynnag, deallaf fod yr unig asesydd oedd ar gael i wneud y gwaith i ffwrdd ar famolaeth, ac ailgyfeiriwyd yr achos i'r gwasanaeth niwroddatblygol lleol. Canlyniad hyn yw y bydd e'n rhaid aros am ddwy neu hyd yn oed dair blynedd i gael asesiad wyneb yn wyneb yn Gymraeg. Mae'r gwahaniaeth yn y gwasanaeth a gynigir i bobl sy'n dymuno gwasanaeth Cymraeg yn gwbl annerbyniol. Felly, mi fyddwn yn ddiolchgar am ddatganiad ar sut mae'r Gweinidog am wella'r sefyllfa mor fuan â phosib, os gwelwch yn dda.