Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 10 Ionawr 2023.
Wel, diolch yn fawr, Russell, a blwyddyn newydd dda i chwithau hefyd. O ran sut yr ydym ni'n cymharu â Lloegr, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, gadewch i ni edrych ar y ffigurau yma, oherwydd mae Ymddiriedolaeth Nuffield—nid ni yn Llywodraeth Cymru sy'n dweud hyn—mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn dweud wrthym ni ein bod ni'n gwario mwy ar iechyd a gofal nag y maen nhw yn Lloegr, iawn? Felly, os edrychwch chi ar y ffigurau yng Nghymru, rydym ni'n gwario 5 y cant yn fwy na Lloegr—cyn COVID oedd hynny—a 30 y cant yn fwy na Lloegr os ydych chi'n cynnwys gofal cymdeithasol. Felly, peidiwch â dechrau sôn wrthym ni am wario mwy o gymharu â Lloegr. Rydym ni'n gwneud hynny; ac mae angen i ni wneud hynny oherwydd mae gennym ni boblogaeth sy'n hŷn ac yn waeth ei hiechyd. Ond y ffaith yw ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n siarad, nid yn unig yn gyffredinol, ond gadewch i ni edrych ar y ffeithiau, nid ni a'u cynhyrchodd nhw ond grŵp arbenigol annibynnol, cydnabyddedig. Rhan o'r rheswm yr ydym ni yn y sefyllfa hon—ac os ydych chi am ddechrau chwarae gemau gwleidyddol, fe chwaraeaf innau hefyd—yw ein bod ni wedi gweld 10 mlynedd o gyni ac mae hynny wedi ein llwgu ni, o'i gymharu â'r hyn oedd yn digwydd cyn hynny dan Lywodraeth Lafur. Polisi oedd hwnnw. Polisi bwriadol oedd hwnnw. Polisi oedd cyni. A wyddoch chi beth, y rhwystredigaeth wirioneddol y mae'r bobl sydd ar y rheng flaen yn ei theimlo heddiw—[Torri ar draws.] Y rhwystredigaeth mewn gwirionedd yw iddyn nhw gael adduned, fe ddywedwyd wrthyn nhw, 'Cymerwch ddos o gyni, ond fe fydd hi'n iawn ar ôl hynny', a'r broblem yw i'r fargen honno gael ei thorri yn ddiweddar, a dyna ran o'r rheswm pam yr ydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi hi heddiw. Ac os edrychwch chi ar nifer y meddygon teulu sydd gennym ni yng Nghymru, mae gennym ni fwy. Yn ôl Ymddiriedolaeth Nuffield, mae gennym ni 63 fesul 100,000 o'i gymharu â 57 fesul 100,000 yn Lloegr.
Ac roeddech chi'n sôn am baratoi. Bobl annwyl, fe wnaethom ni baratoi ar gyfer y gaeaf hwn. Fe wnaethom ni dreulio misoedd ar fisoedd yn paratoi ar gyfer hyn. Ac rydych chi'n sôn am gynllunio: rydym ni wedi cynllunio. Roedd gennym ni gynllun trawsnewid, roedd gennym ni'r chwe nod ar gyfer gofal brys ac argyfwng, ac o ganlyniad i hynny, mae gennym ni wasanaeth 111 a gyflwynwyd ledled Cymru erbyn hyn, sy'n dargyfeirio 20 y cant yn unig o'r bobl sy'n galw am wasanaethau brys. Dychmygwch chi faint ohonyn nhw a fyddai wedi mynd yn uniongyrchol i adrannau damweiniau ac achosion brys cyn hynny. Mae gennym ni ganolfannau gofal sylfaenol brys ledled Cymru, mae gennym ni ganolfannau gofal brys un diwrnod, mae gennym ni fferyllfeydd ac mae gennym ni—. Ac rydym ni wedi gwneud hyn wythnos ar ôl wythnos. Bob pythefnos, mae Julie Morgan a minnau wedi bod yn cwrdd ag arweinwyr yr awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer y 500 o welyau ychwanegol hyn sydd yn y gymuned. Nid rhywbeth yr ydym ni newydd ddechrau meddwl amdano nawr yw hwn. Fe wnaethon nhw gyhoeddiad ddoe yn Lloegr ynglŷn â hyn. Ddoe. Ni fydd hynny'n barod am fisoedd, oherwydd fe allaf i ddweud wrthych chi ein bod wedi gweithio yn wirioneddol galed iawn i beri i hyn ddigwydd. Mae'r pethau hyn ar waith yng Nghymru. Yn gymesur, nid ydyn nhw'n agos at fod yr un mor uchelgeisiol ag y buom ni yng Nghymru. Nid dim ond o ran uchelgais ychwaith, ond rydym ni wedi eu cyflawni nhw eisoes ac fe fyddwn ni'n cyflawni mwy eto. A wyddoch chi beth arall? A wyddoch chi beth sy'n fwy na hynny, mewn gwirionedd, fe welwn ni ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr yn gofyn erbyn hyn am gael dod i weld a dysgu o'n chwe nod ni ar gyfer gofal brys ac argyfwng? Dyna'r sefyllfa wirioneddol o ran ein paratoadau ni, ac mae gennym ni gynllun trawsnewid. Ni fydd hwnnw'n cychwyn dros nos, ond mae'n gwneud gwahaniaeth yn barod.
Ac rydych chi'n holi ynglŷn â rhestrau aros: wel, yn union cyn y Nadolig, rwy'n siŵr eich bod chwithau'r un mor falch ag yr oeddwn i oherwydd bod y rhestrau aros yn byrhau yng Nghymru, o'r diwedd. Roedden nhw wedi byrhau am y tro cyntaf ers y pandemig, ac maen nhw'n ymestyn yn Lloegr. Gadewch i ni fod yn hollol eglur—[Torri ar draws.] Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau—ac fe fyddwn i'n awgrymu i chi fynd i wneud hynny.
Rydych chi'n sôn am ystafelloedd rhyfel y gaeaf, wel, fe ddywedaf i wrthych chi, rwy'n teimlo fy mod i mewn ystafell ryfel y gaeaf bob amser o ran y GIG. Rydym ni wedi bod yn cwrdd bob pythefnos i nodi ble yn union yn y system y ceir y rhwystrau, beth ydym ni am ei wneud ynghylch hynny, a beth ydym ni am ei roi ar waith. Fe wnes i dreulio'r diwrnod yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddydd Gwener diwethaf. Roedd hi'n hynod ddiddorol eu gwylio nhw'n nodi yn union, 'Iawn, lle mae'r broblem, sut mae cael y bobl yma allan, beth sy'n rhwystro hynny?' Felly, mae yna lawer o hynny'n digwydd eisoes, ac rwy'n gallu dweud wrthych chi fod data soffistigedig iawn yn cael eu defnyddio i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella'r sefyllfa.
Rydych chi'n dal ati i refru am ganolfannau llawfeddygol. Fe fûm i yn y ganolfan lawfeddygol sydd eisoes yn bodoli yn Abergele; bûm yn y ganolfan lawfeddygol sydd eisoes yn bodoli yn Llanelli; a bûm yn y ganolfan lawfeddygol sydd eisoes yn bodoli yng Nghaerdydd, yng nghanolfan Vanguard lle maen nhw'n cynnig offthalmoleg. Mae'r rhain yn cael eu sefydlu, maen nhw'n bodoli, ac maen nhw'n trin cleifion yn barod. Felly, rydym ni ar gerdded; mae hynny'n digwydd. Mae 'na ffordd bell i fynd eto, ond mae hi'n bwysig iawn, yn fy marn i, fod pobl yn deall ein bod ni'n mynd trwy'r rhestrau aros hyn, ac mae ein rhai ni'n byrhau wrth i rai Lloegr ymestyn.