Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 10 Ionawr 2023.
Rŷn ni hefyd wedi buddsoddi yn sylweddol mewn gofal brys ac argyfwng eleni—os na fyddem ni wedi gwneud hynny, fe fyddai’r sefyllfa wedi bod lawer yn waeth. Diolch i fuddsoddiad cynnar a oedd ar gael ym mis Mehefin, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi gallu rhoi nifer o gamau ar waith i gynyddu capasiti cyn y gaeaf. Mae hyn yn cynnwys recriwtio 100 o staff rheng flaen ychwanegol, a fydd yn ymateb i alwadau o fewn y pythefnos nesaf; trefniadau rota newydd fydd y cyfateb i 72 o staff cyfwerth ag amser cyflawn; a buddsoddiad mewn technoleg triage ac ymgynghori fideo i helpu i wneud penderfyniadau mwy hyderus ynglŷn â’r angen i fynd â’r claf i’r ysbyty.
Rŷn ni hefyd wedi buddsoddi i gynyddu capasiti mewn canolfannau gofal sylfaenol brys, urgent primary care centres, ac i ehangu’r gwasanaethau gofal brys yn yr un diwrnod, same-day emergency care services. Mae hyn yn rhoi dewis arall i bobl yn lle mynd i adrannau brys prysur neu gael eu derbyn i’r ysbyty. Mae’r camau hyn wedi helpu tua 7,000 o bobl bob mis i gael gwasanaethau gofal brys heb fynd i adran brys ac wedi helpu i leihau a sefydlogi derbyniadau brys.
Rŷn ni’n gwybod bod llawer mwy i’w wneud ac nad oes datrysiadau cyflym i hyn. Rŷn ni’n rhannu pryder y cyhoedd bod ein gwasanaethau dan straen eithriadol a pharhaus. Dyna pam rŷn ni’n sefydlu rhaglen bum-mlynedd i drawsnewid gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng gyda chymorth £25 miliwn y flwyddyn, ac mi gafodd y byrddau iechyd £3 miliwn o hynny ym mis Ebrill. Yn ogystal â’r camau gweithredu hyn, ac wrth i’r gaeaf fynd yn ei flaen, rŷn ni wedi darparu canllawiau pellach i’r byrddau iechyd drwy fframwaith opsiynau lleol wedi’i ddiwygio, sy’n debyg i’r dull a ddefnyddion ni pan oedd achosion COVID ar eu hanterth. Rŷn ni hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr clinigol y byrddau iechyd i’w hannog i wneud pob ymdrech i gadw pobl gartref a pheidio â derbyn pobl i’r ysbyty oni bai bod hynny’n hollol angenrheidiol. Wythnos diwethaf, fe gynhalion ni gynhadledd genedlaethol ar ryddhau cleifion. Rŷn ni hefyd wedi gofyn i dimau clinigol fynd â phobl sydd yn yr ysbyty nôl i’w cartrefi neu i le diogel arall cyn gynted ag sy’n bosibl, i helpu i gadw capasiti yn ein hysbytai ar gyfer y rhai sydd mewn mwy o risg, ac sydd â’r siawns fwyaf o gael budd.
Gallwn ni ddisgwyl i'r misoedd nesaf fod yn rhai caled dros ben, ond dwi eisiau pwysleisio pa mor ddiolchgar ydw i i’r staff am eu hymdrechion cyson yn ystod yr hyn sy’n dal i fod yn gyfnod anodd iawn. Diolch yn fawr hefyd i’r teuluoedd sydd wedi cefnogi eu perthnasau i gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae hyn yn mynd i’n helpu ni i ryddhau gwelyau i bobl sydd angen y gofal arbenigol sydd dim ond yn gallu cael ei ddarparu gan ysbytai.
Rŷm ni wedi gwneud paratoadau helaeth ar gyfer y gaeaf, ac er ein bod wedi gweld pwysau aruthrol dros yr wythnosau diwethaf, ar lefelau na welon ni erioed o'r blaen, mae'r camau gweithredu sydd wedi eu rhoi ar waith wedi galluogi'r sefyllfa i sefydlogi'n fras ers cyfnod y Nadolig. Rŷm ni bellach yn paratoi ar gyfer cam nesaf y pwysau wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol a bywyd yn dechrau dychwelyd i normal ar ôl gwyliau'r Nadolig, yn ogystal â newidiadau yn y tywydd. Rŷm ni'n ymwybodol iawn ein bod yn aml yn gweld ymchwydd newydd yn y galw yn ystod y cyfnod yma o'r flwyddyn. Diolch.