3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:23, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Un peth yn unig: diolch i chi am ddymuno blwyddyn newydd dda i ni gyd; dyna'r tro olaf y mae angen i ni glywed hynny. Diolch yn fawr iawn i chi am wneud, ond fe arbedwn ni amser pe bawn ni i gyd yn dymuno blwyddyn newydd dda i'n gilydd nawr, a gwenu ar ein gilydd, a bod yn garedig â'n gilydd, chwedl Jack Sargeant bob amser yn y lle hwn, a bwrw ymlaen gyda'n cwestiynau ni. Peidiwch â phoeni, ni wnaf i gynnwys y 30 eiliad yna yn eich dyraniad amser chi. Ymlaen â chi, Gareth.