3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:55, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Gweinidog, rydych chi wedi dweud wrthym ni fod gennym ni broblem gyda pheidio â gallu denu digon o staff—rwy'n derbyn hynny—ond nid yw'n ymddangos eich bod yn cydnabod bod gennym ni broblem gyda bod â digon o welyau. Nawr, rwyf wedi codi'r mater yma ambell waith yn y Senedd o'r blaen, ond rwy'n mynd i wneud hynny eto. Pryd gaiff gogledd sir Ddinbych yr ysbyty cymunedol yr addawyd iddi? Gwelsom welyau yn cael eu dileu yn y Rhyl, ym Mhrestatyn, yn Llanelwy ac yn Ninbych gerllaw—ugeiniau o welyau. Ac o ganlyniad i golli'r gwelyau hynny, erbyn hyn mae yna bwysau ychwanegol ar Ysbyty Glan Clwyd. Does dim gwadu hynny. Mae hynny'n ffaith. Nawr, rydych chi'n dweud wrthym ni fod gennym ni fwy o staff yn gweithio yn y GIG nag erioed o'r blaen. Felly, os oes gennym ni fwy o staff a llai o welyau, pam na allwn ni gael rhai gwelyau ychwanegol?

Nawr, clywais i ymateb y Prif Weinidog i mi, ac rwyf wedi clywed eich ymatebion i mi ar y mater hwn o'r blaen. Rydych chi'n dweud nad oes gennych chi'r cyfalaf i allu buddsoddi ac y bu costau cynyddol ar y prosiect penodol hwnnw. Nawr, rwyf wedi gwirio'r ffigyrau, iawn. Rwyf wedi gwirio'r ffigyrau. Yn y cyfnod y gwnaethoch chi gyhoeddi y byddech chi'n darparu'r ysbyty hwnnw, oedd yn ôl yn 2013, bron i ddegawd yn ôl, fe wnaethoch chi adeiladu ysbyty, ond fe wnaethoch chi adeiladu un yn y de, ysbyty'r Faenor, iawn. Cost yr ysbyty hwnnw oedd £360 miliwn. Roedd y gyllideb wreiddiol yn £172 miliwn, iawn. Felly, cost ychwanegol enfawr, o £188 miliwn. Nawr, nid wyf yn gwarafun darparu'r ysbyty hwnnw i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu yng Ngwent; mae'n fuddsoddiad pwysig. Ond ble mae'r buddsoddiad yn y gogledd? Rydych chi wedi cau ysbyty ar ôl ysbyty ar ôl ysbyty, a dydym ni'n dal heb weld ein hysbyty ni. Amcangyfrifir bod y gost ar hyn o bryd yn £64 miliwn—mae hynny'n ffracsiwn o'r buddsoddiad rydych chi wedi'i wario yn y de. Pryd welwn ni ein hysbyty ni er mwyn i ni allu darparu'r mathau o welliannau o ran mynediad at ofal y mae ar bobl yng ngogledd sir Ddinbych ei angen?