Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 10 Ionawr 2023.
Dwi am wneud dau bwynt a gofyn dau gwestiwn, os yn bosib. Fe ddaru'r Gweinidog ddweud ynghynt fod gan Gymru fwy o feddygon teulu yng Nghymru nag yn Lloegr. Dwi'n ofni bod hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth, mewn gwirionedd, o'r sefyllfa rydyn ni'n wynebu. Hynny ydy, mae dwysedd poblogaeth Lloegr yn llawer iawn fwy dwys na Chymru. Mae'n haws iawn cael access i feddyg pan fo gennych chi 1,000 o bobl y filltir sgwâr nag yn ne Meirionnydd, er enghraifft, pan fo gennych chi ddim ond 20 o bobl y filltir sgwâr ac mae'n anos cael mynediad i'r gwasanaethau hynny. Felly, dyna'r pwynt dwi am ei godi a gofyn i chi, felly: ydych chi'n derbyn bod angen fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd yn ein hardaloedd gwledig er mwyn i bobl gael mynediad i'r gwasanaethau hynny?
Hefyd, dwi'n nodi eich bod chi wedi sôn ambell i waith erbyn hyn am y ffaith bod ffliw a COVID yn yr ysbytai. Ond, fel ddaru Rhun ddweud ynghynt, os ydy cyfradd deiliadaeth gwelyau ysbytai yn mynd dros 82 y cant, yna, mae'r hospital-acquired infections yma, fel ffliw, fel COVID, yn mynd i gael eu rhannu. Ond, mae deiliadaeth yn ein hysbytai ni bellach dros 100 y cant; wrth gwrs eu bod nhw'n mynd i gael eu rhannu, felly. Wrth gwrs fod pobl yn dioddef, ac mae hynny oherwydd eich bod chi heb fuddsoddi yn y nyrsys ac wedi torri ar y gwelyau. Mae'n ymddangos fel bod y gwersi ddim yn cael eu dysgu. Un ffordd amlwg o ddysgu'r gwersi yma ydy drwy gynnal ymchwiliad swyddogol i COVID yng Nghymru er mwyn i ni wybod y ffordd ymlaen a sut mae peidio â gwneud pethau yn y dyfodol. A wnewch chi rŵan dderbyn bod yna angen ddi-wad am ymchwiliad o'r fath yma yng Nghymru?