Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 10 Ionawr 2023.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Ac fel gwnaethoch chi gyfeirio ato eisoes, mae gan bob dinesydd ran i'w chwarae wrth ysgafnu'r pwysau sydd ar y GIG, boed hynny o ran ein rheolaeth ar ein hiechyd ni ein hunain neu wrth geisio'r gwasanaethau sy'n briodol. Ond beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dinasyddion yn hynny o beth, a beth allem ni Aelodau'r Senedd ei wneud yn ein hetholaethau ni ein hunain i annog pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu canlyniadau nhw eu hunain o ran eu hiechyd?