4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru — Cynhyrchu radioisotopau meddygol ac arbenigedd meddygaeth niwclear

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:58, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw yn gyson at bwysigrwydd manteisio ar wyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol. Er mwyn bodloni'r rhain a manteisio ar gyfleoedd, mae angen dull cydlynol, cydgysylltiedig a chydweithredol. 

Mae strategaeth arloesi newydd i Gymru yn cael ei datblygu yn unol â'n hymrwymiadau yn y cytundeb cydweithredu a'r rhaglen lywodraethu. Rydym yn bwriadu cyhoeddi yn gynnar yn 2023. Bydd yn cynnig gweledigaeth ar gyfer arloesi a all helpu i dynnu ein meysydd o gryfderau a chyfleoedd at ei gilydd. Gwyddom fod manteision clir, trosglwyddadwy i'r economi o ddatblygu clystyrau o arbenigedd ymchwil a manteisio ar fasnacheiddio a sgiliau sy'n deillio o ymchwil.

Ers 2012, mae rhaglen Sêr Cymru wedi helpu i ddatblygu a chynnal gallu ymchwil Cymru. Rydym yn ddiweddar wedi gorffen ymgynghoriad ar y cam nesaf. O'r blaen, defnyddiwyd cronfeydd strwythurol yr UE i helpu'n sylweddol i gefnogi ymchwil ac arloesi. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid na fyddai Cymru'n derbyn ceiniog yn llai mewn cronfeydd newydd yn eu lle. Y gwir plaen amdani yw nad oes gennym ni'r arian i gefnogi'r cam nesaf gyda'r un faint o gyllid cyhoeddus ag o'r blaen. Mae angen i geisiadau ymchwil yn y dyfodol fod yn benodol ac yn ymwneud â themâu priodol. Rwy'n disgwyl gwneud cyhoeddiad pellach ar ddyfodol Sêr Cymru cyn bo hir.