4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru — Cynhyrchu radioisotopau meddygol ac arbenigedd meddygaeth niwclear

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:26, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Un o'r heriau yw'r ffaith bod oes silff fer i'r cynnyrch hwn. Roedd yn un o'r pryderon am Brexit digytundeb. Roedd yn rhaid i mi wynebu, rwy'n credu, tri chyfnod gwahanol o gynllunio am Brexit digytundeb, ac yn ogystal â heriau i gyflenwyr fferyllol a llwyth o bethau eraill, roedd cyflenwadau radioisotopau wastad yn agos at frig y rhestr o ran beth fyddai'n digwydd. Yn wir, yn y Senedd flaenorol, roedd Mike Hedges yn gofyn cwestiynau yn rheolaidd ynghylch a fyddem yn gallu, ar sail trwydded, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, cael cyflenwad isotopau. Cafodd peth o hynny ei ddatrys, ond roedd yr her yn ymwneud mewn difrif ag a fyddai oedi oherwydd y pwynt am oes silff. O ran sut rydym ni'n mewnforio'r rhan fwyaf o'r isotopau a ddefnyddiwn ar hyn o bryd, rydym yn rheoli hynny'n llwyddiannus. Ond byddai cael cyfleuster cynhyrchu yng Nghymru, gan gynnwys yn y gogledd-orllewin, yn ddigonol o ran oes silff a'n gallu ni i'w gael o ble gaiff ei gynhyrchu i le mae ei angen. Ond o ran craffu'n fanylach ar y gwaith hwn, dylai ymdrin â'r materion trafnidiaeth hynny ac yn wir y pwynt yr ydych chithau a Mabon ap Gwynfor wedi'i wneud ynghylch a oes technolegau amgen ar gael, pa mor bell y gallant lenwi'r bwlch, ac yna'r angen sy'n dal i fodoli am, fel y dywedais i, rhywbeth a fydd yn 1 y cant o gynnig blaenorol Horizon a graddfa wahanol iawn  o weithredu sy'n cael ei gynnig gyda'r holl faterion perthnasol i hynny. Rwy'n cydnabod y pryderon y bydd gan bobl am weithredu cyfleusterau fel hyn yn ddiogel, yn ogystal â gweld y potensial am fuddsoddiad. Rwy'n falch iawn ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar ysgol feddygol gogledd Cymru. Rwy'n gweld cyn Weinidog gogledd Cymru ar y sgrin o'm blaen—roedd yn rhan o'r sgwrs gawsom ni yn y Llywodraeth ddiwethaf, ac rydym ni'n gobeithio parhau a chyflawni yn y tymor hwn hefyd.