Gwella Bioamrywiaeth Afonydd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 1:30, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth yn afonydd Cymru drwy fynd i’r afael ag ansawdd dŵr gwael. Mae hyn yn cynnwys lleihau llygredd ffosffad a gwella cynefinoedd afonydd ar gyfer pysgod mudol drwy brosiect Pedair Afon LIFE. Yn dilyn yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth, rwyf hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi atebion ar raddfa dalgylchoedd i ysgogi gwelliannau yn ansawdd dŵr.