Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 11 Ionawr 2023.
Iawn. Wel, rwy'n gwrthod y disgrifiad hwnnw'n llwyr. Bu gostyngiad sylweddol yn y galw am wasanaeth bws T9, fel y dylai’r Aelod wybod, fel llawer o wasanaethau bysiau ar draws y diwydiant bysiau, ledled y wlad, i bob llywodraeth. Nid yw lefelau teithwyr wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, felly mae'n rhaid inni wneud penderfyniad ymarferol ynglŷn â'r lle gorau i roi’r cymhorthdal, ac mae hyn yng nghyd-destun cyllidebau sy’n lleihau. Ceir gwasanaeth bws sy'n mynd o’r maes awyr i ganol Caerdydd; mae ganddo lwybr mwy cwmpasog na gwasanaeth bws T9, ond serch hynny, mae'n dal i fod yn gwbl weithredol, ac rydym yn parhau i adolygu dyfodol y gwasanaeth bws hwnnw.