Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, clywsom ddoe fod Wizz Air yn rhoi'r gorau i'w holl hediadau i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan roi ergyd arall eto i’w hyfywedd. Dywedodd eich Llywodraeth fod y cam hwn, a dyfynnaf, yn 'syndod.' Fodd bynnag, ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd eich cyd-Aelod Cabinet, Julie James, ddatganiad ysgrifenedig yn dweud bod eich swyddogion, a dyfynnaf,
'yn parhau i gynnal deialog agos ac agored gyda Bwrdd y Maes Awyr'.
Felly, a wnewch chi egluro, Ddirprwy Weinidog, yng ngoleuni’r ddeialog agos ac agored hon, a oedd y cyhoeddiad hwn yn syndod mewn gwirionedd, neu a wnaethoch chi, eich cyd-Aelod Cabinet neu eich swyddogion dynnu eich llygad oddi ar y bêl a methu gweld hyn yn dod?