Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 11 Ionawr 2023.
Wel, mae'r lefel o anwybodaeth yn syfrdanol, a dweud y gwir, ynglŷn â'r realiti sy’n ein hwynebu. Nid oes gan y sector preifat ddiddordeb mewn maes awyr nad yw'n gwneud arian. Ychydig iawn o feysydd awyr, ledled y byd, sy’n gwneud arian, a hoffwn herio Natasha Asghar i roi enghreifftiau i mi o feysydd awyr y mae’n credu y dylem eu modelu, o bob rhan o’r byd, sy’n gwneud elw. [Torri ar draws.]