Cefnogi Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:19, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Sioned. Mae fy swyddogion a minnau'n cynnal trafodaethau dwyochrog ac amlochrog rheolaidd gyda Llywodraethau eraill i rannu ein profiadau, ein harferion da a'n heriau. Ymhlith y rhain mae cyfarfodydd rhyngweinidiogol sero net pedair gwlad y DU, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a'r Gynghrair Dan2 o Lywodraethau gwladwriaethol, rhanbarthol a thaleithiol. Felly, rydym yn cael cryn dipyn o gysylltiad, yn rhynglywodraethol ac fel arall.