Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 11 Ionawr 2023.
Yn ail, sicrhau gwasanaeth rhyddhau gofal cymdeithasol 24/7 sy'n cael ei arwain gan yr awdurdod lleol. Rydym hefyd yn gwybod bod problemau gyda rhyddhau cleifion o'r ysbyty a phrinder llefydd gofal cymdeithasol yn arwain at dagfeydd o fewn y system ehangach, gydag effaith ganlyniadol ar wasanaethau ambiwlans brys. Byddai sefydlu cynlluniau rhyddhau lleol 24/7 yn cyflymu asesiadau ac yn cynorthwyo cleifion i fynd adref yn gynt gyda'r pecyn cywir o ofal, neu i gyfleuster gofal cymdeithasol priodol. I gefnogi hyn, rhaid cael cydweithio, integreiddio a rhannu data llawer gwell rhwng pob elfen o'r system iechyd a gofal cymdeithasol; rhywbeth y mae rhanddeiliaid wedi nodi bod rhaid ei wella.
Rydym hefyd yn gwybod bod angen gwella mynediad at ofal cymunedol ledled y wlad, yn enwedig ar benwythnosau. Er enghraifft, mae Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod trefniadau mynediad ac atgyfeirio at therapyddion galwedigaethol yn aml yn aneglur ac yn anghyson yng ngogledd Cymru. Ac felly mae angen inni ddatblygu system iechyd sy'n galluogi pobl i gael eu trin yn nes at adref, fel gwasanaeth 'ysbyty yn y cartref', fel y mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn galw amdano. Byddai hyn yn helpu i leihau'r nifer sy'n mynd i'r ysbyty ac yn rhoi mwy o ddewis i bobl ynglŷn â ble gellir eu trin.
Mae angen ailfeddwl mwy hirdymor hefyd ynglŷn â sut rydym yn darparu gofal cymdeithasol ar raddfa sy'n diwallu anghenion poblogaeth hŷn, gan gynnwys mwy o fuddsoddi mewn cyfleusterau i gynyddu capasiti. A cheir syniadau arloesol presennol y gellid eu datblygu ar raddfa fwy i helpu i greu sector gofal cymdeithasol mwy cynaliadwy, megis cymunedau gofal dan arweiniad awdurdodau lleol mewn cydweithrediad â darparwyr gofal cymdeithasol, gan ddatblygu platfformau TG lleol. Mae gennym botensial enfawr yn ein cymunedau i fanteisio ar y cyfalaf dynol presennol; gwelsom hynny drwy COVID, oni wnaethom—y gellir cynnull aelodau o'r gymuned i helpu i ddarparu gofal sylfaenol i gymdogion, gan ryddhau staff gofal cymdeithasol i ganolbwyntio ar dasgau mwy arbenigol.
Recriwtio a chadw: wrth gwrs, rydym wedi siarad yn helaeth yn y Senedd am faterion recriwtio a chadw staff o fewn y systemau iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae'n fater hanfodol y mae angen mynd i'r afael ag ef. Yn syml iawn, ni allwn wneud yr hyn rydym am ei wneud heb wasanaeth iechyd wedi'i staffio a'i gyfarparu'n iawn. Felly, rwy'n cefnogi galwadau gan BMA Cymru ar i Lywodraeth Cymru gynyddu nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant. Rhaid cael gwybodaeth fwy hygyrch hefyd am ddata swyddi gwag gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd er mwyn inni allu deall yn well beth yw'r anghenion a'r pwysau a wynebir gan staff, a mabwysiadu ffocws gwell ar hyfforddi a recriwtio. Rhaid i bolisi o'r fath ddod law yn llaw â chynllun gweithredu'r gweithlu cenedlaethol sydd wedi'i ariannu'n iawn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a sicrhau synergeddau rhwng y cynllun hwn a'r fframwaith clinigol cenedlaethol. Fel y bydd pawb ohonom yn cytuno, rwy'n siŵr, rhaid cael cydraddoldeb rhwng y gweithluoedd iechyd a gofal cymdeithasol. Mae staff gofal cymdeithasol—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n meddwl fy mod wedi colli'r—. Mae hynny'n anffodus. Iawn, felly rwyf newydd golli tudalen a oedd yn un eithaf pwysig, ac am ryw reswm, mae wedi diflannu. [Torri ar draws.] Diolch yn fawr iawn. Dyna ni; staff cymorth da. Felly, mae angen inni gydnabod bod angen cydraddoldeb rhwng y ddau faes hynny ac mae angen gwell tâl ac amodau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, a mwy o lwybrau hyfforddi i staff, megis drwy academi genedlaethol ar gyfer gofal.
Creu GIG mwy modern a thryloyw: mae hefyd yn bwysig fod gan bobl fwy o lais yn eu gofal, a chael mynediad at fwy o wybodaeth, fel eu bod yn gwybod pwy sy'n atebol iddynt, a sut. Rhaid i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG gydweithio'n rhanbarthol ar draws ffiniau cyfundrefnol i sefydlu dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau, a gellid ystyried deddfwriaeth i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae angen ailwerthuso a symleiddio strwythurau'r GIG hefyd fel bod mwy o ffocws ar gyflawni ac ansawdd yn hytrach nag ar fiwrocratiaeth er mwyn cyflymu'r broses o gyflawni newid.
Ac yn olaf, mwy o ffocws ar atal. Yn y pen draw, y ffordd i sicrhau system iechyd a gofal cymdeithasol fwy gwydn a chynaliadwy yw drwy fuddsoddi a chanolbwyntio ar atal. Mae lleihau'r galw am wasanaethau a helpu pobl i gadw'n iachach am gyfnod hwy yn arbennig o bwysig wrth i bobl barhau, diolch byth, i fyw'n llawer hŷn. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi galw am well mynediad at raglenni atal sydd wedi'u lleoli mewn gofal sylfaenol a chymunedol, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn tlodi, a mwy o fuddsoddiad mewn arloesedd, gan gynnwys rhaglenni sgrinio a brechu.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau a'r Gweinidog yn cymryd fy nghyfraniad yn y modd adeiladol y bwriadais iddo gael ei wneud. Wrth gwrs, nid yw'r holl atebion gennyf i, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn gweithio'n galed i ymateb i rai o'r heriau a nodais heddiw, ond mae angen inni wybod gan y Llywodraeth pa gynnydd sy'n cael ei wneud a sut mae eu gweithredoedd yn trosi'n welliannau go iawn i wasanaethau y gall cleifion eu gweld a'u teimlo. Mae angen i'r cyhoedd wybod beth y gallant ddisgwyl ei weld yn gwella a phryd y byddant yn ei weld. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau eraill gan yr Aelodau heddiw. Diolch yn fawr iawn.