Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 11 Ionawr 2023.
Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r awdurdod lleol i gyflawni ei hymrwymiadau cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg i ehangu darpariaeth gofal plant ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae £42.7 miliwn o gyllid wedi cael ei gymeradwyo mewn egwyddor drwy gyfuniad o'n rhaglenni a'n grantiau cyfalaf gofal plant, cyfrwng Cymraeg a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy.