Addysg a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:29, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i Sarah Murphy am dynnu sylw at y datblygiadau cadarnhaol sy'n digwydd mewn perthynas ag addysg Gymraeg yn ei hardal hi. Cefais gyfarfod cynhyrchiol iawn gydag arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros addysg ychydig wythnosau yn ôl i drafod cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg a lefel eu huchelgais a phwysigrwydd gweithredu'r cynigion a nodwyd yn y cynllun. Mae'r datblygiadau yn Ysgol Bro Ogwr a'r egin ysgol arfaethedig ym Mhorthcawl yn gadarnhaol yn fy marn i, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn datblygu. Dyna'r neges a roddais i arweinwyr y cyngor pan gyfarfûm â hwy yn ddiweddar iawn.

Fe fyddaf yn ymweld ag Ysgol Gyfun Llangynwyd fis nesaf, ac os gellir gwneud trefniadau, gallai hynny gynnig cyfle da i gyfarfod ag aelodau'r cabinet a chydag athrawon o'r sector cyfrwng Cymraeg yn y ffordd y mae hi'n awgrymu. Rydym yn gwybod bod gwella mynediad at addysg Gymraeg yn mynd y tu hwnt i'r cwestiwn pwysig o gynllunio llefydd mewn ysgolion; mae'n galw am gydweithio effeithiol ar draws sectorau, ar draws sefydliadau a'r Llywodraeth ar bob lefel, ac o'm rhan i, byddaf yn bendant yn sicrhau bod y sianeli cyfathrebu, sydd mor hanfodol i gyflawni hynny, yn parhau ar agor rhwng fy swyddogion i a'r awdurdod lleol.