Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch i chi am eich ateb. Mae'n bwysig i ni yma, a phawb sydd eisiau i'r iaith lwyddo, ymddiried a gallu craffu ar y polisïau a'r data a ddefnyddir i'w cefnogi. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio data i fesur llwyddiant eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, neu'r WESPs, fel y clywom ni yn gynharach. Os yw'r data yn annibynadwy, fe allai rwystro eu hymdrechion i ddatblygu mwy o siaradwyr Cymraeg. Yn ystod cyfarfod pwyllgor, dywedaist ti na allwch chi ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd eu targedau neu eu hymrwymiadau o dan y WESPs, ond efallai y byddech yn ceisio rhoi mwy o awdurdod ac atebolrwydd i chi'ch hun drwy gyfrwng Bil addysg Gymraeg, os yn bosib. Os caiff y ddeddfwriaeth hon ei phasio, pa bwerau a ydych chi'n bwriadu eu rhoi i chi'ch hun i wneud yn siŵr bod y WESPs yn llwyddiant?