Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 2:43, 11 Ionawr 2023

Diolch yn fawr iawn. Roedd llawer ohonom yn bresennol yn y rali a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar risiau'r Senedd ym mis Rhagfyr, ac rwy'n gwybod, Weinidog, i chi alw draw hefyd i siarad â myfyrwyr, a oedd yn adrodd i ni straeon brawychus am y ffordd y maen nhw'n cael trafferth â chostau trafnidiaeth, biliau ynni, rhent, bwyd, ac yn y blaen. Ac rwyf i wedi codi â chi o'r blaen sut y mae dysgwyr addysg bellach ac uwch a rhai mewn hyfforddiant yn cael eu taro mewn modd unigryw gan yr argyfwng costau byw, gan nad ydyn nhw'n gymwys am y rhan fwyaf o'r taliadau cymorth sydd ar gael a ddim mewn sefyllfa i fedru cynyddu eu hincwm. Ac felly, siomedig oedd y ffaith nad oedd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn, er gwaethaf effaith drychinebus costau cynyddol ar fyfyrwyr. Weinidog, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr ôl-16 o bob math yn cael eu cefnogi y tu hwnt i'r pecyn cymorth cyllid?

Ac o ffocysu ar brentisiaid yn benodol, gyda nifer gynyddol o bobl ifanc yn cael eu denu i swyddi isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog byw cenedlaethol heb hyfforddiant, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi prentisiaid yn ystod yr argyfwng costau byw, yn enwedig y rhai ar yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid o ddim ond £4.81 yr awr?